P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol, Gohebiaeth - Deisebydd i’r Pwyllgor, 04.10.23

 

Mi oedd hi’n braf cael bod yn bresennol yn gwylio’r drafodaeth yn y Senedd ar y 13eg o Fedi, ac rwy’n ddiolchgar iawn o’r pwyntiau positif oedd wedi dod o’r llawr gan nifer o ASC yn cefnogi’r ddeiseb a’i hamcanion; ond, Siomedig iawn oedd clywed geiriau’r Dirprwy Weinidog y celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden ASC. Yr unig ffordd gellir disgrifio ei geiriau yw eu bod yn sylwadau paradocsaidd iawn, oherwydd bod y gweinidog wedi disgrifio sefyllfa Sycharth fel safle sydd ddim dan fygythiad, ac o fewn yr un araith wedi disgrifio’r lle yn rhy fregus i’w hysbysebu rhagofn iddo dynnu pobl yno i grwydro.

 

Tydi’r adnoddau ar y we sy’n egluro hanes y safle cafodd ei grybwyll gan y Gweinidog ddim yn ddigonol nac ychwaith yn ymateb i amcanion yr ymgyrch fod safle Sycharth ddim yn derbyn y parch a’r sylw y dylai ei dderbyn. Mae’r dal nifer o bobl Cymru ddim yn ymwybodol o hanes eu hunain, nac ychwaith o bwysigrwydd safle fel Sycharth fel rhan o ddatblygiad ein hanes a’n cenedl.

 

Ydi’r Llywodraeth felly yn dal i weld hanes Cymru fel rhywbeth dylid ei anghofio, a’i wthio i’r neilltu? Dyna’r ymdeimlad sy’n codi o ymateb Llywodraeth Cymru hyd yn hyn. Mae dal cyfle i rywbeth positif ddod o’r ymgyrch yma a dwi’n galw ar y Llywodraeth i gymryd y camau i brynu, hysbysebu a sicrhau’r safle yma er lles ein hanes, ac i annog i bobl Cymru ddeall hanes y genedl.